Blunder Woman 1984 // "Haclediad is good, but it can be better"
Croeso i flwyddyn newydd gyffrous ym myd yr Haclediad... psych! Na, just blwyddyn arall o ni'n tri yn arwain chi trwy storm💩bywyd modern 😃
Gweledigaeth AI Keir Starmer, y ban Tiktok yn yr UDA helyntion Apple TV Iest - mae hyn i gyd a mwy yn aros amdanoch chi!
Ffilmdiddim y mis ydy'r lliwgar Wonder Woman 1984 - ffilm lle mae Pedro Pascal yn sianeli Raul Julia ac yn neud popeth yn well (ond dydy o a Chris Pine methu hydynoed achub hon druan)
Diolch o waelod calon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - da chi werth y byd 🫶
Helpwch Iestyn i gadw Bonta Deli i fynd wrth gyfrannu i'r Kofi 👇🙏❤️
--------
2:49:22
Krampus Campus a’rJacked Santa
🎄Nadolig llawen i chi gyd Hac-ffans!
Neidiwch mewn i bennod arbennig llawn feibs hapus positif efo Bryn, Sions a Iestyn wrth i chi yrru adre /cwcio /cuddio mewn cwpwrdd dros Dolig*.
🎅 FfilmDiDdim y mis ydy Red One - sy’n gyrru Sioned mewn i existential creisis am ystyr oesol Jacked Santa.
Fydd na chats am A.I. wrth gwrs, ond gan fwyaf fyddwn ni’n siarad am be da ni di joio dros y flwyddyn, ac yn trio edrych mlaen i 2025
Diolch o waelod galon am wrando trwy’r flwyddyn - chi werth y byd 🫶
*ni’n gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn anodd iawn i lot ohonoch chi - gobeithio bod ein mwydro yn cadw cwmni i chi a chofiwch estyn allan, mae'n OK i ofyn❤️
--------
2:50:23
International Spam of Mystery
🌸YEAH BABY!🌼
Oedden ni’n meddwl bod angen rhaglen all-good-vibes ar bawb y mis yma, felly da ni wedi ditcho’r Ffilmdiddim am Ffilmi’rdim yn lle - dowch nôl i 1997 efo ni (eto?!) i wylio Austin Powers: International Man of Mystery ✌️
Wrth gwrs, mae genno ni sgwrs tech i chi cyn hyna tho, Prosiect Lleisior sy’n creu cofnod o leisiau Cymraeg i bobl sy’n eu colli, gwefan nuts Walzr.com (https://walzr.com/IMG_0001) sy’n ffendio’r holl hen fideos “send to youtube” o 10 mlynedd nôl a chreu timerift nostalgia weird iawn i Milennials - ac wrth gwrs, trafod gwaith sylwebydd tech mwyaf disglair Cymru, Cefin Roberts, ar pam ddylai Cymry Cymraeg deffinetli aros ar Twitter am rhyw reswm.
HYN OLL A MWY yn Haclediad #140 - welwn ni chi am y christmas spectacular!
--------
2:35:32
Penblwydd Morb-us i ni
Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi’n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!🎃
Yn y bennod yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn taclo heriau ffôns i blant, ein penblwydd yn 14 (so da ni ddigon hen i gael ffôn yn ôl Smartphone Free Schools) a Ffilmdiddim perffaith o addas... ac ardderchog o dwp, Morbius 🦇🧛♂️
Mae na 14 mlynedd o’r nonsens yma wedi pasio, diolch o waelod calon i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r Haclediad - da chi’n sêr 🤩
Os hoffech chi daflu ceiniog draw i bodlediad hyna’r Gymraeg prynwch Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) i ni 🫶☕
--------
2:49:06
Môr-BADron
Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?!
FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad